|
Sept 5, 2008 | English
Lleihau Ôl-troed Amgylcheddol Yn Gam I'r Cyfeiriad Iawn I Ffermwyr Llaeth A Da Byw
Reducing the environmental footprint while lowering costs will be the theme of the Institute of Biological, Environmental and Rural Sciences (IBERS), Aberystwyth University stand at the Dairy and Livestock Event being held on the 17th and 18th September at Stoneleigh Park, Coventry. Scientists will be on hand to give practical advice on how measures taken on-farm can not only be of benefit to the environment, but can lead also to cost savings.
Lleihau costau trwy leihau ôl-troed amgylcheddol fydd thema stondin Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol ac Astudiaethau Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn y Sioe Laeth a Da Byw Lloegr a gynhelir ym Mharc Stoneleigh, Coventry ar y 17eg a’r 18fed o Fedi. Bydd gwyddonwyr yno wrth law i roi cyngor ymarferol ar sut y gall mesurau arbennig ar y fferm leihau effeithiau ar yr amgylchedd, a hefyd lleihau ar gostau'r fferm.
"Mae nwyon ty-gwydr yn uchel ar yr agenda gwleidyddol tra bod effeithiau amaethyddiaeth ar lygredd nitradau mewn cyrsiau dwr hefyd yn bryder. Mae strategaethau lleddfu yn fwy tebygol o gael eu hystyried gan ffermwyr os ydyn nhw hefyd yn mynd i leihau eu costau", yn ôl David Davies, Rheolwr Ymestyn Amaethyddol IBERS.
Mi fydd y ffermwyr hynny yn y DU sydd wedi nodi gostyngiad yn enillion eu mentrau yn ddiweddar yn cael y cyfle i weld sut y gall mesurau i leihau eu ôl-troed amgylcheddol fod o werth iddyn nhw yn ariannol tra hefyd yn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu goblygiadau trawsgydymffurfio.
Tynnir sylw at waith ymchwil IBERS i fathau o feillion coch a gwyn sy’n medru lleihau'r angen am wrteithiau tra'n gwella safon y pridd. Mae meillion yn amsugno nitrogen atmosfferig, yn lleihau'r ddibyniaeth ar wrteithiau i laswellt/mhaill gan sicrhau porfwyd uchel o ran protein.
Mae bridio porfwyd ar gyfer y dyfodol wedi bod yn ffocws rhaglenni bridio IBERS yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae datblygiad glaswelltydd treuliadwy â lefelau uchel o ME a chynhwysion optimeiddiol o brotein a siwgr wedi eu profi i gynyddu'r gyfran o nitrogen yn y planhigyn sydd wedi ei ymgorffori i gig a llaeth yn ôl Heather McCalman o Ganolfan Ddatblygu Tir Glas IBERS.
"Drwy ychwanegu at gyflenwad y carbohydrad eplesol yn y rwmen, mae'r amrywiaethau newydd yma'n medru cynyddu effeithlonrwydd y broses o ddefnyddio protein gan y fuwch", ychwanegodd.
"Gallai hyn hefyd arwain at leihad gollyngiadau amonia, methan ac ocsid nitraidd i’r awyr."
Bydd dewisiadau costau isel o reoli da byw dros y gaeaf hefyd yn cael eu harddangos ac a fydd yn galluogi'r diwydiant i addasu i senarios newid hinsawdd i orllewin y DU. Byddwn yn gofyn i ffermwyr ystyried eu dewis o gnydau, trefn plannu, rheoli pori, ychwanegion bwydydd, lles y stoc, rheolaeth pridd ynghyd â dewisiadau amgenach i adeiladau.
"Gall y mesurau ymarferol yma hefyd fod o gymorth i gynhyrchwyr i ateb pryderon defnyddwyr sydd am eu bwyd i gael ei gynhyrchu mewn modd mwy cynaliadwy," dywedodd Heather McCalman .
"Rydyn ni'n hyderus y bydd y negeseuon yma'n help i ffermwyr ar draws y wlad i feddwl yn fwy positif yn ystod cyfnod digon anodd i'r diwydiant, a hefyd y bydd y cysyniadau yma'n fuddiol nid yn unig i'w busnesau, ond i'r amgylchedd hefyd."
Mwy o wybodaeth:
Emma Shipman, Swyddog Cyhoeddusrwydd a Digwyddiadau, Swyddfa Fusnes IBERS, Prifysgol Aberystwyth 01970 823002 / eos[AT]aber.ac.uk
>> Further Articles
Related Farming Links
Webmaster in Archives at Sept, 2008 18:30 PM
Do you have anything to say? perhaps this is the place to say it!
If you like this post then please consider subscribing to my full feed RSS. You can also subscribe by E-mail and have new posts sent directly to your inbox.
Update your listing! Or add your firms details to these pages for FREE... Submit Site
Can't find it? Try searching the entire web!!!
Download Google Pack: free essential software for your PC
|