|
Sept 11, 2008 | English
Pwer O Blanhigion: Tanwydd Ar Gyfer
Gallai un o fysus Lerpwl redeg am flwyddyn gyfan ar ethanol wedi ei gynhyrchu o borfa a dyfir ar 11hectar o borfa fydd neges gwyddonydd o Aberystwyth yng Ngwyl Wyddoniaeth y Gymdeithas Frenhinol a gynhelir yn Lerpwl o 6-11eg o Fedi.
"Gall pwer o blanhigion fod yn rhan o'r ateb i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd ond rhaid ei ddatblygu mewn modd sy'n gynaliadwy yn gymdeithasol, yn economegol ac amgylcheddol yn ogystal â darparu bwyd, mae planhigion yn cael eu defnyddio ar gyfer bwydydd, ffibr, a thanwydd," yn ôl Dr. Iain Donnison, Arweinydd Rhaglen Bioegni a Thanwydd Bioadnewyddadwy Sefydliad Biolegol, Amgylcheddol ac Astudiaethau Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth.
Bydd Iain Donnison yn tynnu ar ymchwil cyfredol yn IBERS i gadarnhau y gall deunyddiau planhigion nad sy’n cael eu defnyddio i gynhyrchu bwyd, ddarparu tanwydd ar gyfer y dyfodol ac nad "malu awyr" yw hyn.
Gellir defnyddio planhigion i gynhyrchu tanwydd ar gyfer trafnidiaeth a chyflenwi ystod o gemegolion sail i'w defnyddio mewn plastigau, gorchuddiadau a chosmetigau.
"Mae newid yn yr hinsawdd ynghyd â ffactorau economegol a demograffig yn cynnig heriau newydd ar gyfer diogelwch bwyd a thanwydd. Gellir cynhyrchu trydan a gwres trwy ystod o dechnolegau ynni adnewyddadwy ond mae biomas o blanhigion yn unigryw oherwydd ei allu i gymryd lle olew yn uniongyrchol ar gyfer trafnidiaeth a chemegolion" meddai.
Mae IBERS mewn cydweithrediad â phartneriaid eraill yn edrych ar ddichonoldeb defnyddio cnydau egni penodedig nad sy'n cynhyrchu bwyd megis Miscanthus a rhygwellt parhaol, ac a dyfir fel porfwyd i anifeiliaid fferm, ar gyfer cynhyrchu ethanol. Fe allai hyn fod yn ffynhonnell o incwm ychwanegol i ffermwyr, a hynny heb achosi gwrthdaro gyda'r diwydiant bwyd.
"Mae angen cynyddu'r defnydd o danwydd adnewyddadwy fel rhan o becyn o fesurau, sy'n cynnwys lleihau ôl-traed carbon i wynebu newid yn yr hinsawdd, ac i ymdopi gyda'r galw cynyddol yn fyd-eang am fwyd o ganlyniad i dwf mewn poblogaeth, newidiadau mewn patrymau diet, diwydianeiddio a threfoli."
Mae Dr. Donnison yn argyhoeddedig y gall cnydau bioegni helpu i gyrraedd y targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau gollyngiadau CO2, ac mewn ardaloedd helaeth o'r DU, gallai hynny ganolbwyntio ar ardaloedd a gysylltir yn draddodiadol gyda thir pori.
"Fedrwn ni fyth ddibynnu’n llwyr ar gnydau bioegni yn y DU fel ffynhonnell ar gyfer tanwydd trafnidiaeth oherwydd yr effaith ar gynhyrchu bwyd. Ond tra bod cyfran dda o'r ymchwil cyfredol ym maes ethanol seliwlosig wedi ei ganoli ar eplesu startsh o wenith ag india-corn, byddai rhygwellt parhaol yn well opsiwn ar gyfer y DU, oherwydd gellir ei dyfu ar diroedd sy'n anaddas ar gyfer tyfu cnydau eraill, ac o'r herwydd nid yw'n clymu i fyny tiroedd sy'n angenrheidiol ar gyfer cynhyrchu bwyd neu borthiant anifeiliaid."
Mae ymchwilwyr yn IBERS yn canolbwyntio ar borfeydd tal o gynnyrch uchel megis Miscanthus ac amrywiaethau o rygwellt sy’n uchel mewn siwgr fel deunydd crai o gynnyrch uchel ar gyfer eplesu. Mae'r tîm yn chwilio am gynnyrch eplesol sy'n cynnwys ethanol ond hefyd asid lactig ac asid sycsinig; y ddau yn meddu ar nifer o swyddogaethau pwysig yn y diwydiant cemegolion.
Defnyddir asid lactig yn uniongyrchol yn y diwydiannau bwyd, diodydd a thecstilau, a hefyd fel deunydd deilliadol megis polylactid, sef plastig a ddefnyddir wrth becynnu bwydydd a defnyddiau eraill. Mae asid sycsinig, sef cynnyrch hyblyg arall, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu ystod eang o ddefnyddiau yn amrywio o ddefnyddiau glanhau i daeniadau gorchuddio. Yn fyd-eang amcangyfrifir fod y farchnad ar gyfer asid lactig yn £120miliwn a disgwylir twf sylweddol yn y farchnad honno yn y dyfodol.
"Gyda newid yn yr hinsawdd yn uchel ar yr agenda, rydw i yn credu ei bod hi’n hanfodol i edrych am ffynonellau o gemegolion rhad ac adnewyddadwy sydd yn draddodiadol wedi tyfu allan o'r diwydiant olew."
Further Information:
Emma Shipman, Publicity and Events Officer, IBERS Business Office, Aberystwyth University 01970 823002 / eos[AT]aber.ac.uk
>> Further Articles
Related Farming Links
Webmaster in Archives at Sept, 2008 24:10 PM
Do you have anything to say? perhaps this is the place to say it!
If you like this post then please consider subscribing to my full feed RSS. You can also subscribe by E-mail and have new posts sent directly to your inbox.
Update your listing! Or add your firms details to these pages for FREE... Submit Site
Can't find it? Try searching the entire web!!!
Download Google Pack: free essential software for your PC
|